Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Macizo de la Maladeta |
Sir | Benasque |
Gwlad | Sbaen |
Uwch y môr | 3,404 metr |
Cyfesurynnau | 42.630992°N 0.656686°E |
Amlygrwydd | 2,812 metr |
Cadwyn fynydd | Pyreneau |
Deunydd | gwenithfaen |
Mynydd uchaf y Pyreneau yw Pico d'Aneto (Ffrangeg: Néthou). Saif yn nhalaith Huesca yng ngogledd Aragon yn Sbaen.
Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 20 Gorffennaf, 1842, gan Platon de Tchihatcheff, cyn-swyddog yn y fyddin Rwsaidd, gyda Pierre Sanio de Luz, Luchonnais Bernard Arrazau a Pierre Redonnet fel tywysyddion, ac Albert de Franqueville, botanegwr Ffrengig, a'i dywysydd, Jean Sors. Gadawsant yr Hospice de France ar 18 Gorffennaf a threulio dwy noson ar y mynydd.
Dringwyd y mynydd yn y gaeaf am y tro cyntaf ar 1 Mawrth 1878 gan Roger de Monts, B. Courrèges, a B. a V. Paget.